Loading...
 

Store | Michikazu Matsune & David Subal

Dydd Mercher 25 tan Dydd Sadwrn 28 Ebrill 2012 | canol y dre, Wrecsam
Ar Agor 10yb tan 5yh

Cysyniad a pherfformiad: Michikazu Matsune & David Subal (Japan/Awstria)
Manylion: Perfformiad parhaus dros bedwar diwrnod.

Mae Store yn siop. Mae celf yn fusnes.

Ffansi rhywbeth ar gynhyrfiad y foment? Beth am gopi rhad o waith gwreiddiol drud? Gallwch ddewis hyn oll a llawer mwy o’r siop hon. Dewch i mewn, ac fe’ch gwahoddir i ddarllen dewislen sydd â mwy na 60 perfformiadau bach. Gwnewch eich dewis ac yna gwyliwch eich pryniant yn cael ei berfformio yn arbennig ar eich cyfer.

Profiad cwbl unigryw i’r siopwr. Mae’r darn yma yn rhyngweithio gyda’r siopau, y ddinas a’r trigolion gan fod Matsune & Subal yn chwarae gyda’r syniad o ddolen busnes llwyddiannus yn dilyn siopau blaenorol yn Vienna, Oslo a Philadelphia, i enwi ychydig yn unig.

A European phenomenon, Migrations brings Store back to Wales following its astounding 2010 success in Bangor.

Gyda phrisiau yn dechrau o 50c mae celf wir yn fforddiadwy i bawb.

Mwy

Store ar Facebook

Cydnabyddiaeth

The Austrian Cultural Forum.
Culture 2000, Terrains Fertiles, Im_flieger, the city of Vienna.