Loading...
 

Gloria Days | Marc Rees

Nos Wener 5 Rhagfyr 2008 | Galeri, Caernarfon
Theatr 19:30


Gloria Days


Cwmni: Marc Rees - R.I.P.E (Cymru / Wales)
Manylion: Solo, 50 minutes
Wedi ei greu a'i berfformio gan: Marc Rees
Presented by: Galeri & Migrations

Yn sicr, dyma brosiect theatrical mwyaf uchelgeisiol Marc Rees hyd yma. Gyda chefnogaeth tîm creadigol enbyd yn cynnwys y dylunydd opera John Mac Farlane, y ddeuawd ddawns o Ferlin, Rubato, a'r hanesydd theatr Vivien Garnder, mae Marc wedi creu darn o ddawns theatr ddychmygus a chyffrous wedi ei ysbrydoli gan gymeriad hynod; 5ed Marquis Môn, Henry Cyril Paget.

Yn cael ei adnabod fel 'The Dancing Marquis', mi wnaeth Paget herio a thanseilio syniadau Edwardaidd am ddosbarth, cenedl, gwedduster a phriodoldeb theatrical.

Mae ei ffordd hynod o fyw yn darparu ffocws ar gyfer y gwaith unigol amlddisgyblaethol unigryw hwn, a gafodd ei premier yn Abertawe yn Hydref 2007 cyn symud ymlaen i Ganolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar gyfer taith a werthwyd allan.

Plus informal post-show discussion and buffet.

Y Wasg

  • "Cyfuniad o ddawns, ffilm a sain chwantus a chyffrous." - The Guardian
  • "Mae'r ddawns nwydus a hudolus hwn yn syfrdanol." - South Wales Echo
  • "Hudolus llwyr." - The Western Mail
  • "Ni allaf feddwl yn rhwydd am unrhyw waith arall diweddar sydd ag unrhyw beth tebyg i'r ansawdd o grefftwaith lapidari â hwn." - Donald Hutera, Dance Theatre Magazine

Galeri

Cewch weld delweddau o'r perfformiadau yma..

Cydnabyddiaeth

Arianwyd Gloria Days gan Gyngor Celfyddydau Cymru; cynhyrchwyd gan R.I.P.E. gyda Chydweithfa Perfformiad Rhyngwladol mes:a; cyd-gynhyrchwyd gan Taliesin, Diversions a Dawns i Bawb.

Next Event

Boombox Caerdydd

take part!

Now Booking

Treehugger

27 May - 1 July